BrowseConsultations
CONSULT.Outcome publishedConsultation · gov.uk

Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau: Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES) yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Iaith Gymraeg.

Last fetched 03 May 2026 · gov.uk
Detail

Rydym yn falch o wahodd aelodau’r cyhoedd i ddweud eu dweud am ein Cynllun Iaith Gymraeg newydd drafft.

Mae UKCES yn ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod unigolion yn gallu mynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith a bod eu galluogi nhw i ddefnyddio’u dewis iaith yn fater o arfer dda yn hytrach nag yn gonsesiwn. Deallwn fod gwadu’r hawl honno iddynt yn gallu peri gwir anfantais iddynt. Nod y cynllun hwn yw gweithredu’r egwyddor hon, cyhyd ag y bo honno’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd.

Paratowyd y cynllun hwn yn unol ag arweiniad gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ein gobaith yw y bydd yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn y broses ymgynghori hon.

Os hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, cyflwynwch eich ymateb drwy neges e-bost at: info@ukces.org.uk. Hefyd, gallwch ysgrifennu atom yn:

Ymgynghoriad ar y Cynllun Iaith Gymraeg / Welsh Language Scheme Consultation
UKCES
Renaissance House
Adwick Park
Wath Upon Dearne
South Yorkshire
S63 5NB

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

I ofyn am gopi caled o’r cynllun drafft, anfonwch e-bost at info@ukces.org.uk neu ffoniwch 01709 774800.

Welsh Language Scheme (English version).

Documents
Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau:… · Order Paper · Order Paper