Ymgynghori ar Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig DECC
Mae’r Adran yn gofyn am sylwadau ar ei Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig. Rydyn ni am sicrhau bod y cynllun iaith yn hawdd ei ddeall ac y bydd…
Mae’r Adran yn gofyn am sylwadau ar ei Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig. Rydyn ni am sicrhau bod y cynllun iaith yn hawdd ei ddeall ac y bydd yn ateb anghenion pobl sy’n siarad yr iaith.
O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun Iaith sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg. Mae’r Cynllun Iaith yn disgrifio sut y bydd DECC yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Iaith wedi’i baratoi yn unol a Chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan y Ddeddf a’r gobaith yw y caiff ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn dilyn y broses ymgynghori. Cytunwyd ar y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Gwahoddir unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd a diddordeb yn y materion hyn i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Contact usEmail: internal.comms@decc.gsi.gov.uk
Dogfennau YmgynghoriYmgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg DECC: Crynodeb oa??r ymatebion
DECC Welsh Language Scheme consultation: summary of responses