BrowseConsultations
CONSULT.Outcome publishedConsultation · gov.uk

Ymgynghoriad ar newidiadau i’n datganiadau ystadegol

Rydyn ni’n cynnig newid maint a fformat ein datganiadau ystadegol a pha mor aml rydyn ni’n eu cyhoeddi.

Last fetched 03 May 2026 · gov.uk
Detail
Cynnig i newid y cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau ystadegol

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyhoeddi amrywiaeth o ystadegau ar weithgarwch cwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n cynnig newid pa mor aml rydyn ni’n cyhoeddi rhai o’r ystadegau hyn. Nodir y cyhoeddiadau, ynghyd â’r newidiadau a gynigir i ba mor aml y cânt eu cyhoeddi, yn y tabl isod.

Teitl y cyhoeddiad Pa mor aml yn awr Pa mor aml yn ôl y cynnig Cwmnïau Corfforedig yn y DU Bob mis Bob chwarter Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr Bob mis Ddwywaith y flwyddyn Cynnig i newid fformat ein cyhoeddiadau ystadegol

Ar yr un pryd â lleihau pa mor aml rydyn ni’n rhyddhau ein cyhoeddiadau Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig ac Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr, rydyn ni hefyd yn cynnig newid fformat y cyhoeddiadau. O ran y cyhoeddiad Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n cynnig lleihau hyd y ddogfen PDF yn sylweddol.

Bydd y ddogfen yn canolbwyntio’n benodol ar y pwyntiau allweddol mewn perthynas â gweithgarwch y gofrestr am y cyfnod o dri mis, a chymariaethau â’r un cyfnod o dri mis yn y flwyddyn flaenorol. Caiff gwybodaeth am weithgarwch hanesyddol y gofrestr ei chadw ar gyfer y cyhoeddiad blynyddol, Gweithgareddau’r Gofrestr Cwmnïau. Bydd yr adroddiad chwarterol yn dal i gynnwys gwybodaeth gefndir allweddol, a byddwn yn dal i gyhoeddi’r ystod lawn o dablau data i gyd-fynd â phob datganiad.

Rydyn ni’n cynnig ymestyn y cyhoeddiad Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr i gynnwys pwyntiau allweddol sy’n ymwneud â’r ffigurau ac yn eu hesbonio. Rhagwelwn mai cyhoeddiad ar y we yn hytrach na dogfen PDF fydd hwn. Unwaith eto, byddwn yn dal i gyhoeddi gwybodaeth gefndir allweddol a thablau data i gyd-fynd â phob datganiad.

Gofyn am gyfraniad defnyddwyr

Bydd y newidiadau a gynigir yn caniatáu i ni ddefnyddio mwy o adnoddau ar ddatblygu’r ystadegau a’r deunydd ategol sy’n cyd-fynd â hwy. Os cânt eu derbyn, bydd y newidiadau’n cael eu gwneud dros 2016. Rydyn ni’n gofyn am eich barn chi am y newidiadau a gynigir fel y gallwn fod yn sicr bod ein cynhyrchion yn diwallu’ch anghenion chi. Rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i chi a’r effaith y byddai’r newidiadau hyn yn ei chael arnoch chi ac ar eich gwaith.

Mynd at yr ymgynghoriad ar gynhyrchion ystadegol Tŷ’r Cwmnïau

Gofynnwn i chi ystyried y cynigion a chymryd oddeutu 15-20 munud i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 29 Ebrill 2016. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n canfyddiadau cyn pen rhyw 12 wythnos ar ôl y dyddiad cau hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost statistics@companieshouse.gov.uk.

Documents