BrowseConsultations
CONSULT.Outcome publishedConsultation · gov.uk

Caniatáu i ysgolion gadw chwistrellwyr adrenalin awtomatig sbâr

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar a ddylid newid deddfwriaeth i ganiatáu i ysgolion ddewis cadw chwistrellwyr adrenalin awtomatig (AAI) sbâr i’w defnyddio mewn argyfwng.

Last fetched 03 May 2026 · gov.uk
Detail

Yn dilyn argymhelliad y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol, mae’r llywodraeth yn cynnig newid Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 i alluogi ysgolion i brynu heb bresgripsiwn a chadw AAI sbâr i’w defnyddio mewn argyfwng.

Byddai hyn yn galluogi ysgolion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n dewis gwneud hynny i gadw AAI sbâr i’w defnyddio mewn argyfwng. Ar hyn o bryd, dim ond ar bresgripsiwn y gellir cael AAI, sy’n golygu na all ysgolion gadw rhai sbâr i’w defnyddio mewn argyfwng. Ni fyddai’n ofynnol i ysgolion gadw AAI sbâr o ganlyniad i’r newid.

Rydym yn ymgynghori yn unol ag adran 129(6) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968.

Sut i ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ymgynghori Cymraeg – cwblhewch y ddogfen ymgynghori ac anfonwch i Gareth.James@dh.gsi.gov.uk fel atodiad.

Darllenwch fersiwn Saesneg o’r ymgynghoriad

You can also read about the consultation and submit your views online in English.

Documents