Gwerthuso Safleoedd - Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd - Nghymru
Ymgynghoriad cyhoeddus yng nghyswllt y gwaith o chwilio am safle addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)
Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, a chyhoeddi Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Uwch ei Actifedd yn Ddaearegol: Gweithio gyda Chymunedau gan Lywodraeth Cymru, bydd Radioactive Waste Management (RWM), un o is-gwmnïau Nuclear Decommissioning Authority, nawr yn dechrau ar y gwaith o chwilio am gymuned sydd â safle addas ac sy’n barod i gynnig lleoliad i adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).
I ategu datganiad polisi Llywodraeth Cymru, mae’r wybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Werthuso Safleoedd wedi’i hatodi ac mae hi’n cynnwys manylion pwysig ynghylch sut y bydd safleoedd yn cael eu hasesu yng Nghymru.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau cyhoeddus ac ymateb i’r ymgynghoriad. Fe gawsom 90 set o ymatebion ac fe fyddwn yn cyhoeddi ein hymateb yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan ein hymgyrch.